top of page
Welsh Flag.webp
MumblesLife_Logo_White_2_transparent.png

Mumbles.Life – Telerau ac Amodau

Mumbles.Life – Telerau ac Amodau

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 2026

Mae’r Telerau ac Amodau hyn (“Telerau”) yn llywodraethu eich mynediad at wefan, ap ar gyfer dyfeisiau symudol a gwasanaethau cysylltiedig Mumbles.Life, a’ch defnydd ohonynt (gyda’i gilydd, y “Platfform”).

Drwy gael mynediad at y Platfform neu ei ddefnyddio, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen, deall, ac yn cytuno i ymrwymo i'r Telerau hyn. Os nad ydych yn cytuno i'r Telerau hyn, ni ddylech ddefnyddio'r Platfform.

1. YnglÅ·n â Mumbles.Life

Mae Mumbles.Life yn blatfform digidol ar gyfer y gymuned ac sy'n galluogi defnyddwyr i ddarganfod digwyddiadau, gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleoedd lleol yn y Mwmbwls a’r cyffiniau. Mae hefyd yn galluogi busnesau lleol i hyrwyddo digwyddiadau a chynigion arbennig i aelodau cofrestredig.

Gweithredwr: Mumbles.Life
E-bost: hello@mumbles.life <mailto:hello@mumbles.life>
(Manylion ychwanegol y cwmni i'w hychwanegu os mae’r cwmni’n gofrestredig)

Mae Mumbles.Life yn gweithredu fel platfform ar gyfer rhestru, darganfod a hyrwyddo yn unig. Nid ydym yn trefnu, yn gweithredu nac yn rheoli unrhyw ddigwyddiadau, gwasanaethau na chynigion a restrir ar y Platfform.

2. Diffiniadau

  • Mae “Aelod Unigol” yn golygu defnyddiwr cofrestredig sy'n cyrchu'r Platfform at ddefnydd personol.

  • Mae “Aelod Busnes” yn golygu busnes neu sefydliad sydd wedi’i gofrestru i hyrwyddo rhestru, digwyddiadau neu gynigion.

  • Mae “Cynnwys” yn golygu unrhyw destun, delweddau, rhestru, cynigion, hyrwyddiadau, neu ddeunydd arall a gyflwynir i'r Platfform neu a ddangosir arno.

  • Mae “Cynnig” yn golygu hyrwyddiad, gostyngiad neu gymhelliant a ddarperir gan Aelod Busnes.

  • Mae “Aelodaeth” yn golygu unrhyw danysgrifiad am ddim neu danysgrifiad â thâl a gynigir gan Mumbles.Life.

3. Cymhwysedd

  • Rhaid i chi fod yn o leiaf 18 oed i greu cyfrif neu brynu aelodaeth.

  • Mae Aelodau Busnes yn cadarnhau bod ganddynt awdurdod i rwymo'r busnes y maen nhw’n ei gynrychioli.

4. Cyfrifon a Chofrestru

Rydych yn cytuno i’r canlynol:

  • Darparu gwybodaeth gywir, gyfredol a chyflawn

  • Cadw eich manylion mewngofnodi yn ddiogel

  • Bod yn gyfrifol am yr holl weithgaredd sy'n digwydd drwy eich cyfrif

Mae gan Mumbles.Life yr hawl i atal neu derfynu cyfrifon sy'n cynnwys gwybodaeth ffug neu gamarweiniol.

5. Aelodaeth a Thanysgrifiadau

5.1 Aelodaeth Unigol

Gall Aelodau Unigol:

  • Bori digwyddiadau, rhestru, a chynnwys cymunedol

  • Derbyn hysbysiadau, e-byst a negeseuon yn yr ap

  • Cael mynediad at gynigion arbennig gan Aelodau Busnes

5.2 Aelodaeth Fusnes

Gall Aelodau Busnes:

  • Gyhoeddi rhestru, digwyddiadau a hyrwyddiadau

  • Anfon cynigion at Aelodau Unigol drwy declynnau’r Platfform

  • Cael mynediad at nodweddion aelodaeth yn ôl y math o danysgrifiad sydd ganddynt

Mae manylion nodweddion aelodaeth, prisiau a hyd y tanysgrifiad yn cael eu nodi adeg y pryniant, a gallant newid o bryd i'w gilydd.

6. Taliadau, Adnewyddu, a Chanslo

  • Mae ffioedd aelodaeth yn daladwy ymlaen llaw.

  • Gall tanysgrifiadau adnewyddu'n awtomatig oni bai eu bod yn cael eu canslo cyn cael eu hadnewyddu.

  • Nid oes modd ad-dalu ffioedd oni bai bod hynny'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

  • Nid yw hawliau defnyddwyr statudol o dan gyfraith y DU yn cael eu heffeithio.

7. Rhestru, Digwyddiadau, a Chynigion

7.1 Cynnwys Trydydd Parti

Darperir yr holl restru, digwyddiadau a chynigion gan Aelodau Busnes neu drydydd parti.

Mumbles.Life:

  • Nid yw'n gwirio nac yn gwarantu cywirdeb

  • Nid yw'n cymeradwyo unrhyw restru, digwyddiadau na chynigion

  • Nid yw'n gwarantu argaeledd nac ansawdd

7.2 Trafodion

Mae unrhyw archeb, pryniant neu gytundeb yn fater rhwng yr Aelod Unigol a'r Aelod Busnes yn unig.

Nid yw Mumbles.Life yn rhan o unrhyw drafodion ac nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y canlynol:

  • Canslo neu newidiadau

  • Anghydfodau neu ad-daliadau

  • Colledion sy'n deillio o ddibynnu ar gynnwys gan drydydd parti

8. Rhwymedigaethau Aelodau Busnes

Mae Aelodau Busnes yn cytuno i’r canlynol:

  • Mae'r holl Gynnwys a Chynigion yn gyfreithlon, yn gywir, a ddim yn gamarweiniol

  • Mae cynigion yn cydymffurfio â chyfreithiau defnyddwyr a hysbysebu'r DU

  • Bydd pob cynnig a hyrwyddir yn cael ei wireddu fel y disgrifir

  • Mae ganddynt yr hawliau sydd eu hangen i gyhoeddi'r Cynnwys a gyflwynwyd.

Mae Aelodau Busnes yn indemnio Mumbles.Life am unrhyw hawliadau sy'n deillio o'u Cynnwys neu eu Cynigion.

bottom of page